TROSGLWYDDO 

Transition


Croeso / Welcome

Diweddarwyd diwethaf / Last updated: 30/3/2024

Bydd cyfarfod i rieni blwyddyn 6 yn neuadd yr ysgol ar ddydd Iau, 27 Mehefin, 6.00pm, yn dilyn y diwrnod pontio cyntaf. 

The meeting for year 6 parents will be in the school hall on Thursday, 27th June, 6.00pm, following the first transition day. 

Blog Bro Edern

Cliciwch isod i weld y newyddion diweddaraf o Fro Edern. Rydyn ni'n cyfathrebu gyda'n rhieni drwy flog, nid drwy lythyrau.

Please click below to see the latest from Bro Edern. We communicate with our parents by blog, not through letters. 

https://blogclwstwrbroedern.wordpress.com/ 

CLASSCHARTS

Rydyn ni'n cyfathrebu gyda rhieni / gwarcheidwaid drwy 'Announcements' ar Classcharts. Yn mis Medi, byddwch yn derbyn cod i rieni er mwyn cael mynediad i'r app yma. Bydd yr app yma yn dangos cynnydd eich plentyn hefyd. 

We communicate with parents/guardians through 'Announcements' on Classcharts. In September, you will receive a parent code in order to log into this app. This app will also show your child's progress. 

Trosglwyddo i Fro Edern Medi 2024

Pleser yw cyflwyno’r wefan hon i chi sydd yn darparu rhagor o wybodaeth am y broses drosglwyddo i Fro Edern. Mae Bro Edern wedi ymrwymo i ddarparu'r addysg orau bosibl i’ch plentyn mewn partneriaeth â chi a’r disgyblion. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi dros y saith mlynedd nesaf. Croesawn ymweliadau ac awgrymiadau gan rieni; os teimlwch fod modd i ni wella ar unrhyw beth yna mae croeso i chi gysylltu â ni yn yr ysgol.

Agorodd yr ysgol ym mis Medi 2012 ar safle Ysgol Gyfun Glantaf gyda 71 o ddisgyblion a deg aelod o staff. Ym mis Medi 2024 bydd tua 1000 o blant yn yr ysgol a 78 aelod o staff. 

Transition to Bro Edern SEPT 2024

It is a pleasure to introduce you to this website, which provides all necessary information on the transition process to Bro Edern. At Bro Edern we are committed to provide the best possible education for your child, in partnership with you and the pupils. We look forward to working with you over the course of the next seven years. We welcome visits and suggestions from parents; if you feel that we can improve in any way then please feel free to contact the school. 

Bro Edern opened in September 2012 on the Glantaf site, with 71 pupils and 10 members of staff. In September 2024 there will be around 1000 pupils and 78 staff members. 

Cyflwyniad nos Iau, 27 Mehefin, 2024 i rieni am 6.00yh.

Thursday evening's presentation to parents, 27th June, 2024 at 6.00pm.

Gofal Bugeiliol ac academaidd

Pennaeth Cynnydd a Lles Blwyddyn 6 a 7

Enw: Mrs Lowri Jones

Rhif Ffôn: 02920 489445

e-bost: Lowri.jones@broedern.cymru

Fy mhrif gyfrifoldeb yw sicrhau fod pob disgybl yn hapus ac yn gwneud cynnydd yn yr ysgol. Mae symud i ysgol uwchradd yn gyfnod cyffrous ac yn ddigwyddiad arwyddocaol ym mywyd eich plentyn. Mae’n golygu troi cornel lle mae disgwyl iddynt fod yn annibynnol a datblygu sgiliau newydd. Dyma ddechrau taith fydd yn creu atgofion ac yn rhoi sylfaen i’r llwybr tuag at lwyddiant y dyfodol. 

Edrychaf ymlaen at groesawu eich plentyn i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. 

pastoral and academic care

Head of Progress and Wellbeing for Years 6 and 7

Name: Mrs Lowri Jones

Phone Number : 02920 489445

e-mail: Lowri.jones@broedern.cymru

My main responsibility as Head of Progress is to ensure the happiness and progress of all pupils. Moving from primary to secondary school is an exciting and significant event in your child’s life. It is a turning of a corner where they are expected to become more independent and develop crucial life-skills that they have not yet used. It is the beginning of a journey that will create memories and pave the way to future success. 

I look forward to welcoming your child to Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Golwg Gyflym / Quick Look

Isod gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth angenrhediol ar gyfer trosglwyddo i Fro Edern ym mis Medi 2024.

Below you will find all relevant information for transition to Bro Edern in September 2024.

Gwybodaeth Bwysig 

Important information 

Allgyrsiol 

Extra curricular

ble mae bro edern? 

Where is Bro edern?

@broedern